Oes gennych chi gluniau neu bennau-gliniau poenus?

Un o’r prif risgiau i osteoarthritis yw bod dros eich pwysau. Os hoffech gymorth i helpu colli pwysau, gwneud mwy o ymarfer corff a lleihau poen yn y cymalau, gofynnwch i’ch meddyg teulu, nyrs neu a fyddai’r rhaglen hon yn addas i chi.

Mae’r rhaglen 12 wythnos hon AM DDIM , ac mae’n cynnig sesiwn dwy awr bob wythnos gydag 1 awr o ymarfer corff ysgafn ac 1 awr o gyngor maeth, gan gynnwys rhai sesiynau coginio ymarferol.

Gallwch hefyd fynd i sesiwn ymarfer corff arall bob wythnos am gost fach. Caiff y sesiynau hyn eu cynnal mewn canolfannau hamdden lleol.